Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 7
Rhagfyr 2021
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Prif Weinidog: Rhaglen Lywodraethu - Diweddariad
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Diwygio’r Dreth Gyngor yng Nghymru
(45 munud)
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Gwaith Ymchwil Manwl ar Ynni Adnewyddadwy - I'w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig
(0 munud)
6 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
(45 munud)
7 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar
(15 munud)
NDM7857 - Vaughan Gething (De Caerdydd a Phenarth)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Gorffennaf 2021 a 24 Tachwedd 2021, yn y drefn honno, yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil yr Asiantaeth Ymchwil a Dyfeisio Blaengar (Saesneg yn unig)
Dogfen
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Hydref 2021)
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
(Tachwedd 2021)
8 Dadl: Cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant
(60 munud)
NDM7858 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cymeradwyo’r Cynllun Hawliau Plant diwygiedig drafft yn unol ag adran 3(6) o Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
2. Yn nodi y caiff y Cynllun Hawliau Plant diwygiedig ei gyhoeddi erbyn 31 Rhagfyr 2021 fan bellaf.
Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011
Cynllun Hawliau Plant Drafft 2021
Dogfennau
Ategol
Y
Cynllun Hawliau Plant: llawlyfr i staff Llywodraeth Cymru
Codi
ymwybyddiaeth o hawliau plant
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 8 Rhagfyr 2021